Skip to main content

English

Yn ôl

Creu cyfrif gwrandawiadau Llys a Thribiwnlys

Mae cyfrifon gwrandawiadau Llys a Thribiwnlys yn cael eu creu ar gyfer defnyddwyr proffesiynol sydd angen gallu gweld gwybodaeth GLlTEF fel rhestrau gwrandawiadau, ond nid oes ganddynt y gallu i greu cyfrif gan ddefnyddio MyHMCTS neu'r Platfform Cyffredin e.e. aelodau o'r cyfryngau

Bydd daliedydd cyfrif, unwaith y bydd wedi mewngofnodi, yn gallu dewis pa wybodaeth y mae'n dymuno ei derbyn trwy e-bost a hefyd weld gwybodaeth ar-lein nad yw ar gael i'r cyhoedd, ynghyd â gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd.

Byddwn yn cadw'r wybodaeth bersonol a roir gennych yma i reoli eich cyfrif defnyddiwr a'n gwasanaethau

Dim ond i drafod eich cyfrif a'r gwasanaeth hwn y byddwn yn defnyddio hwn i gysylltu â chi
Dim ond i gadarnhau pwy ydych ar gyfer y gwasanaeth hwn y byddwn yn defnyddio hwn, a byddwn yn ei ddileu wedi i'ch cais gael ei gymeradwyo neu ei wrthod.
Rhaid i'r ffeil fod ar ffurf jpg, pdf neu png a rhaid bod yn llai na 2MB mewn maint.

Telerau ac Amodau

Caniateir ichi gael cyfrif ar gyfer gwrandawiadau Llys a thribiwnlys ar yr amod bod gennych resymau cyfreithiol dros gael mynediad at wybodaeth nad yw ar gael i'r cyhoedd e.e. rydych yn aelod o sefydliad cyfryngau ac angen gwybodaeth ychwanegol i riportio ar wrandawiadau.

Fel rhan o'n proses ddilysu flynyddol, fe anfonir e-bost atoch yn gofyn i chi gadarnhau bod gennych dal fynediad i'r cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd i greu eich cyfrif. Os na fyddwch yn dilysu eich cyfeiriad e-bost o fewn yr amser a bennwyd, caiff eich cyfrif ei ddileu, a bydd rhaid i chi wneud cais am gyfrif newydd os bydd angen mynediad arnoch o hyd.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid ac nid oes gennych mwyach resymau cyfreithiol dros gael cyfrif ar gyfer gwrandawiadau Llys a thribiwnlys e.e. rydych yn gadael eich cyflogwr a enwyd uchod, eich cyfrifoldeb chi yw hysbysu GLlTEF am hyn fel y gellir dadactifadu eich cyfrif.

Yn ôl i'r brig